Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 23 Ebrill 2015 |
|
||||
Amser: |
13.00 - 14.30 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(4)2015(6) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler AC (Cadeirydd) Peter Black AC Sandy Mewies AC Rhodri Glyn Thomas AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Nicola Callow, Director of Finance Kevin Tumelty, Pennaeth Diogelwch Sulafa Thomas, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Helena Feltham, Cynghorwr Annibynnol, Cynghorwr Annibynnol
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC.
1.2 Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.3 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 5 Mawrth.
2 Strategaeth Cyllideb Ddrafft 2016-17
3 Sesiwn friffio ar yr adolygiad o’r Gwasanaeth Diogelwch
Roedd y Comisiynwyr wedi gofyn am adolygiad llawn o'r trefniadau diogelwch sydd eisoes yn bodoli. Roeddent yn ystyried y strategaeth ddiogelwch, y cynnydd gyda gwaith cyfredol, materion sy'n weddill a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Gofynnodd y Comisiynwyr am sicrwydd bod y trefniadau diogelwch yn briodol, yn effeithiol ac yn ymateb i anghenion sy'n newid. Pwysleisiodd y Comisiynwyr y pwysigrwydd bod ein trefniadau diogelwch yn cael eu defnyddio mewn modd sensitif, o ystyried statws ystâd y Cynulliad fel adeiladau cyhoeddus agored a chroesawgar.
Tynnodd y Comisiynwyr sylw at arwyddocâd y rôl y mae angen i unigolion ei chymryd o ran eu diogelwch eu hunain a phwysleisiwyd pa mor bwysig ydyw i holl Aelodau'r Cynulliad, eu Staff Cymorth a staff y Comisiwn weld y cyflwyniad 'Stay safe'.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar am y Pwyllgor Archwilio 20/04/15
Rhoddodd David Melding y wybodaeth diweddaraf i'r Comisiynwyr am gyfarfod diweddaraf ACARAC. Cafodd tri adroddiad archwilio eu cyflwyno:
• Adolygiad o benodi Cynghorwyr Arbenigol i Bwyllgorau. Roedd yr argymhellion yn canolbwyntio ar ddiweddaru canllawiau, dull clir i nodi ac ymdrin â gwrthdaro buddiannau a gwerthusiad clir o berfformiad;
• Gwerth am arian. Nododd yr archwiliad fod gan Gomisiwn y Cynulliad ddiwylliant Gwerth am Arian wedi'i ddatblygu'n dda, sydd wedi'i sefydlu drwy'r sefydliad. Roedd angen gwneud rhagor o waith o ran adnabod a chofnodi gweithgareddau Gwerth am Arian heb fod yn ariannol.
• Adolygiad o Drefniadau Rheoli Prosiectau Comisiwn y Cynulliad. Roedd y pwyllgor yn cefnogi'r dull gweithredu a ddefnyddir.
• Cymeradwyodd ACARAC y Siarter Archwilio Mewnol ar gyfer 2015-16 sy'n diffinio diben, awdurdod a chyfrifoldeb Archwilio Mewnol yn ffurfiol.
Roedd Gareth Watts (Pennaeth Archwilio Mewnol) wedi nodi ei fod wedi cwblhau'n llwyddiannus pob gweithgaredd a gynlluniwyd ar gyfer rhaglen Archwilio Mewnol 2014-15, a chymeradwyodd y Pwyllgor yr adroddiad blynyddol. Bydd yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn gan Eric Gregory, Cadeirydd y Pwyllgor, yng nghyfarfod mis Gorffennaf.
Roedd y Pwyllgor wedi adolygu'r Gofrestr Risg Gorfforaethol ac wedi trafod newid cyfansoddiadol, er mwyn sicrhau'n arbennig bod popeth posibl yn cael ei wneud i ddylanwadu a bod yn barod ar gyfer newidiadau yn y dyfodol. Canmolodd y Pwyllgor ddull gweithredu'r Comisiwn ac ansawdd y gwaith. Awgrymwyd ffynonellau pellach o her annibynnol y bydd Anna Daniel yn archwilio iddynt.
5 Unrhyw Fusnes Arall
Adroddodd David Melding yn ôl i'r Comisiwn ar yr ymweliad diweddar â Bosnia Herzegovina, a oedd yn nodi 20 mlynedd ers y digwyddiadau yn Srebrenica. Dywedodd y cynhelir digwyddiad yn y Senedd ar 8 Gorffennaf.
Nododd y Llywydd fod digwyddiadau wythnos y Cynulliad yn Wrecsam wedi bod yn llwyddiannus.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn ar 21 Mai, pan fydd y Comisiynwyr yn cynnal un o'u cyfarfodydd rheolaidd i ganolbwyntio ar berfformiad.